CEC 13

Senedd Cymru | Welsh Parliament

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal: archwilio diwygio radical | Services for care experienced children: exploring radical reform

Ymateb gan Y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE) | Evidence from Children’s Social Care Research and Development Centre (CASCADE)

 

MAES 1

Cyn gofal: lleihau nifer y plant yn y system ofal yn ddiogel

 

1.       Diwylliant a chydberthnasau: meithrin cydberthnasau rhwng gweithwyr cymdeithasol, teuluoedd a chymunedau

Fel canolfan, rydym yn pryderu am y ffordd y trefnir gwaith cymdeithasol statudol, sy'n golygu bod prif rôl gweithwyr cymdeithasol wedi tueddu i gulhau i ganolbwyntio ar asesiadau risg ac yna monitro. Mae darparu cymorth ac ymyriadau a threulio amser yn meithrin cydberthynas ag aelodau'r teulu yn aml yn cael eu gwneud gan eraill. Rydym wedi clywed gan ein grŵp cynghori rhieni nad oes llawer o ymddiriedaeth yn aml mewn gweithwyr cymdeithasol mewn sefyllfaoedd lle mae risg y gallai achosion gofal gael eu cychwyn. Rydym wedi cael ein hysbysu gan y grŵp hwn ac eraill yn ein gwaith cyfranogi bod straeon cyffredin (anwir) yn cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn honni bod gweithwyr cymdeithasol yn cael taliadau bonws am dynnu plant oddi wrth eu rhieni. Er y dylid rhagweld, pan fo plant mewn perygl o gael eu derbyn i ofal, y gall cydberthnasau fod yn negyddol, mae dangosyddion llwyddiant mewn rhai prosiectau sy’n anelu at leihau anghydbwysedd pŵer, a ddisgrifir nesaf.

Grymuso aelodau'r teulu: Drwy ein hymchwil, rydym wedi gweld y gall grymuso rhieni, plant ac aelodau ehangach o’r teulu drwy ymyriadau fel eiriolaeth cymheiriaid neu rieni proffesiynol a Chynadleddau Grŵp Teulu wella cydberthnasau pan fo risg o achosion gofal neu pan fydd y rhain ar y gweill. Ar hyn o bryd, rydym yn cynnal gwerthusiadau realaidd i weithrediad gwasanaethau eiriolaeth rhieni ledled Cymru (a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru) ac ar brosiectau eiriolaeth rhieni penodol yng Ngwent, Ynys Môn a Camden. Mae’r prosiectau hyn yn amlygu’r rôl unigryw y mae eiriolwyr yn ei chwarae fel adnodd i ddylanwadu’n gadarnhaol ar gysylltiadau pŵer a chydberthnasau gwaith rhwng rhieni a gweithwyr proffesiynol. Mae ein hymchwil yn amlygu’n benodol sut mae’r rhaglenni hyn yn helpu rhieni i ddod yn fwy grymus i gael llais a chwarae rhan ystyrlon mewn gwneud penderfyniadau (Diaz ac eraill, 2022; Diaz ac eraill, ar ddod; Fitz-Symonds ac eraill, ar ddod). Mae ein prosiectau eiriolaeth rhieni amrywiol yn dechrau adeiladu darlun mwy o sut mae gwasanaethau eiriolaeth rhieni yn gweithredu ac yn dangos eu potensial i drawsnewid y system amddiffyn plant ar draws y DU.  Mae’r ymyriadau hyn yn cyd-fynd yn gadarn â’r gwerthoedd cynhenid yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Dull gweithredu sy’n gweithio ar draws awdurdod lleol cyfan yw diogelu teuluoedd. Mae'r model hwn yn defnyddio dull cyfweld ysgogiadol, timau amlddisgyblaethol, a gweithio gyda theuluoedd i'w cadw gyda'i gilydd. Canfu gwerthusiad ostyngiad yn nifer y plant sy'n derbyn gofal a'r rhai ar gynlluniau amddiffyn plant, llai o alwadau i'r heddlu a gwasanaethau cymdeithasol, a derbynioldeb da ymhlith rhieni, gofalwyr ac ymarferwyr. Mae’n arbed miliynau o bunnoedd ym mhob awdurdod lleol, gydag arbedion cadarnhaol yn dilyn costau gweithredu o fewn wyth mis yn Swydd Hertford (Rodger ac eraill, 2020). Mae wedi cael ei gyflwyno i dros 20 o awdurdodau lleol yn Lloegr.

Un agwedd bwysig at leihau gwahaniaethau pŵer sy’n dieithrio aelodau’r cyhoedd yw cynnwys, a lle bo modd, cydgynhyrchu gwasanaethau gyda’r rhai sydd wedi profi ymyriadau gofal cymdeithasol. Mae llawer o’n hawdurdodau lleol yng Nghymru yn gwneud gwaith da o ran ymgysylltu â phlant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal, ac mae rhai yn gweithio gyda phlant anabl a’u rhieni. Fodd bynnag, mae'n fwy anghyffredin gweld cydweithio â rhieni sydd wedi bod drwy'r system amddiffyn plant i wella gwasanaethau. Mae ein gwaith cynnwys gyda rhieni sydd wedi bod mewn achosion gofal, a rhai y mae eu plant wedi’u symud dros dro neu’n barhaol, yn datgelu bod cyfleoedd pwysig i wrando, dysgu, a meithrin cydberthnasau â rhieni. Mae Ofsted wedi canmol agwedd Cyngor Camden at weithio fel hyn. Mae ein hastudiaeth Llais y Teulu ar gynnal Cynadleddau Grŵp Teulu yn cyd-ddylunio gwerthusiad gyda theuluoedd yn Camden a Gwynedd, yn ogystal ag ymarferwyr ledled y DU, ac yn y prosiect hwn, rydym yn cyflogi ymchwilwyr cymheiriaid sydd â phrofiad bywyd o’r system amddiffyn plant i ddod â’u profiad a’u harbenigedd i'r ymchwil. Credwn y gallai awdurdodau lleol ddefnyddio dulliau tebyg i feithrin cydberthnasau â chymunedau a theuluoedd lleol.

Prif ffrydio datblygiadau addawol a lleihau'r ddibyniaeth ar grantiau tymor byr i'w cyflawni. Mae gormod o brosiectau diddorol ac addawol yn ‘ychwanegion’ i wasanaethau craidd, wedi'u darparu gan gyllid grant tymor byr ychwanegol. Mae hyn yn golygu mai anaml y mae gweithwyr cymdeithasol statudol yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gwaith mwy dwys a fyddai’n eu galluogi i feithrin cydberthnasau a deall sefyllfa’r teulu’n dda. Maent hefyd yn brin o gyfleoedd i dreulio amser ystyrlon yn cadw neu'n datblygu eu sgiliau mwy therapiwtig gyda phlant ac oedolion. Mae'r math hwn o waith yn cael ei wneud gan eraill – yn aml, staff llai cymwys sy'n dod i adnabod teuluoedd yn dda ond sy'n dueddol o fod â diffyg llais yn y broses o wneud penderfyniadau ffurfiol.

2.       Cefnogi teuluoedd i aros gyda’i gilydd: gwasanaethau cadw teulu dwys a chymorth tymor hwy i rai teuluoedd

Rhwng 2017 a 2020, cynhaliodd ac adolygodd CASCADE amrywiaeth o adolygiadau systematig fel rhan o'i gwaith i sefydlu What Works Centre for Children’s Social Care. Ar y cyfan, mae tystiolaeth yn gyfyngedig ar effeithiolrwydd ymyriadau i atal plant rhag mynd i ofal. Serch hynny, mae tystiolaeth adolygu systematig y gall gwasanaethau cadw teulu dwys fod yn effeithiol (Bezeczky ac eraill, 2020). Roedd ar sail tystiolaeth o'r fath y gwnaeth Cymru gyflwyno gwasanaethau cymorth dwys i deuluoedd ledled Cymru. Mae cwestiwn agored ynghylch a yw gwasanaethau cymorth dwys i deuluoedd rhanbarthol yn dal i weithredu'r model ymyrraeth mewn argyfwng, y mae tystiolaeth dda o’i effeithiolrwydd. Y dull arall sy’n sefyll allan yn y dystiolaeth ryngwladol fel un lle mae tystiolaeth gadarnhaol o’i effeithiolrwydd wrth atal gofal y tu allan i’r cartref yn y tymor hwy (yn bennaf drwy ailuno plant â’u teuluoedd) yw Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol (Ogbonnaya a Keeney, 2018), felly mae’n galonogol gweld y rhain yn cael eu treialu yng Nghymru.

Fel y crybwyllwyd uchod, mae llawer o brosiectau cymorth yn ymyriadau tymor byr ond mae'n amlwg y bydd angen cymorth tymor hwy ar rai teuluoedd i ofalu am eu plant yn llwyddiannus. Gallai cymorth parhaus mwy hirdymor i gadw plant gyda’u teuluoedd fod yn llawer rhatach o hyd i wasanaethau cyhoeddus na gofal maeth neu ofal preswyl, ond yn rhyfedd ddigon, ymddengys nad yw’n cael ei ddefnyddio llawer yng Nghymru. Mae ein hastudiaeth o ailuno yn awgrymu y gallai rhai plant gael eu dychwelyd o ofal maeth neu ofal preswyl yn rhy gyflym heb gymorth digonol neu barhaus. Mae cyfran fawr o'r plant a phobl ifanc sydd mewn gofal preswyl yng Nghymru wedi'u gosod i ddechrau drwy drefniadau gwirfoddol a'u cyrchfan wrth adael yw dychwelyd adref (Elliott et al. 2018). Gellir dadlau felly bod lle i atal derbyniadau o'r fath trwy gymorth cynharach i deuluoedd, yn ogystal ag angen canolbwyntio ar waith gyda theuluoedd cyn dychwelyd adref, i leihau 'drws cylchdro' pobl ifanc sy'n dychwelyd i dreulio amser mewn gofal preswyl. Efallai y bydd angen cymorth ar rieni ag anableddau dysgu neu gyflyrau iechyd meddwl drwy gydol plentyndod eu plant.

Mae gofal cymorth, a elwir bellach yn ofal maeth Camu i Fyny, Camu i Lawr yn ffordd bosibl arall o ddarparu cymorth dwys i gadw teuluoedd gyda’i gilydd. Canfu ymchwil Roberts (2016) fod y cymorth seiliedig ar gydberthynas yn cael ei werthfawrogi gan deuluoedd ac roedd y newidiadau cadarnhaol a welwyd yn ystod yr ymyriad yn cynnwys cydberthnasau cryfach rhwng rhieni a phlant, yn ogystal â llai o risgiau yn ymwneud ag ynysigrwydd cymdeithasol a chamddefnyddio sylweddau gan rieni. Dylid dangos diddordeb mewn cadw llygaid ar effaith y cynllun peilot presennol gyda’r Rhwydwaith Maethu, sef Camu i Fyny, Camu i Lawr, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

 Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu sylfaen dystiolaeth ryngwladol gynyddol yn cefnogi Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol (a modelau rhyngwladol cysylltiedig fel llysoedd teulu trin cyffuriau) fel un o’r ymyriadau mwyaf addawol ar gyfer aduno plant â’u teuluoedd neu eu galluogi i barhau i fyw gyda’i gilydd (Allen ac eraill, 2021; Harwin ac eraill, 2018; Shaw, 2021; Zhang ac eraill, 2019).  Yn bwysig ddigon, gwelwyd bod y canlyniadau hyn yn gynaliadwy dros amser ar ôl achosion (Harwin ac eraill, 2018) ac yn gyraeddadwy heb gynyddu’r risg i blant o fynd i ofal maeth eto neu ailadrodd camdriniaeth (Zhang ac eraill, 2019). Priodolir llawer o lwyddiant Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol i’r model sy’n cynnig dull datrys problemau hollol wahanol i deuluoedd o gymharu ag achosion gofal arferol. Yn 2019, cyhoeddodd CASCADE adolygiad realaidd cyflym (Meindl ac eraill, 2019) a oedd â’r nod o gefnogi’r dystiolaeth ar effeithiolrwydd Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol trwy ddatblygu gwell dealltwriaeth o sut maent yn lleihau nifer y plant mewn gofal. Rydym bellach yn profi ein damcaniaeth drwy ein gwerthusiad o gynllun peilot Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol yng Nghymru. Yn ein canfyddiadau interim (Meindl ac eraill, 2022), rydym wedi gwneud argymhellion sy’n anelu at gefnogi gweithrediad llwyddiannus Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol yn ehangach yng Nghymru lle mae pryderon ynghylch niferoedd cynyddol o blant mewn gofal yn arbennig o ddifrifol.

 

3.       Mwy o gysondeb ledled Cymru

Fel y mae aelodau Pwyllgor y Senedd yn gwybod, mae’r amrywiad mewn cyfraddau gofal rhwng awdurdodau lleol yn drawiadol, yn ogystal â’r amrywiad yn y ffordd y mae cyfraddau gofal wedi newid yn y blynyddoedd diwethaf. Er mwyn ddangos yr eithafion, yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae pedwar awdurdod lleol wedi gweld cynnydd o 40% neu fwy, tra bo dau wedi gweld gostyngiadau o fwy nag 20% (StatsCymru, 2021). Ni ellir esbonio’r gwahaniaethau hyn gan wahaniaethau neu newidiadau mewn amddifadedd (Hodges, 2020). Cynhaliodd CASCADE a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru arolwg yn 2020 (Forrester ac eraill, 2021; Wood a Forrester, ar ddod) o’r gweithlu gofal cymdeithasol plant yng Nghymru i weld a ellid esbonio’r amrywiadau mewn cyfraddau gofal rhwng awdurdodau lleol, yn rhannol o leiaf, drwy gwahaniaethau yng ngwerthoedd, agweddau a barn y gweithwyr a'r arweinwyr mewn awdurdodau lleol gyda chyfraddau gofal cynyddol yn erbyn rhai sy’n gostwng yn y pum mlynedd diwethaf.  O gymharu ag ymatebwyr o awdurdodau lleol â chyfraddau gofal cynyddol, roedd ymatebwyr o awdurdodau lleol â chyfraddau gostyngol yn fwy hyderus bod eu hawdurdod lleol yn cadw plant yn ddiogel a, lle bo modd, gartref; â gwerthoedd a oedd yn fwy cadarnhaol am deuluoedd biolegol; yn fwy parod i gymryd risg mewn ymateb i astudiaethau achos; yn fwy tebygol o deimlo bod gan eu hawdurdod lleol y gweithdrefnau ar waith i gefnogi gweledigaeth yr awdurdod lleol o ymarfer, megis hyfforddiant a goruchwyliaeth; ac yn fwy tebygol o ddefnyddio'r Fframwaith Canlyniadau. Mater allweddol sy'n codi o hyn yw tegwch. Mae hyn yn awgrymu, er bod pob awdurdod lleol yn profi pwysau lluosog a allai arwain at orfod rhoi plant mewn gofal, eu bod yn ymateb iddynt mewn ffyrdd gwahanol. Mae'n ymddangos bod rhai awdurdodau lleol yn gallu lliniaru rhai o'r ffactorau sy'n ysgogi cyfraddau gofal cynyddol. Yr her a wynebir yng Nghymru yw sut y gall awdurdodau lleol ddysgu oddi wrth ei gilydd i sicrhau cysondeb ac ansawdd gwasanaethau.

Maes 2

Mewn Gofal: Gwasanaethau a chymorth o safon i blant mewn gofal

Tair blaenoriaeth:

1.       Digon o ofal maeth sefydlog, a gofal preswyl lle bo angen

Er bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi dechrau gweithio ar fentrau radical, gan gynnwys datblygu menter Maethu Cymru a’r gwaith tuag at roi terfyn ar elw mewn gwasanaethau plant sy’n derbyn gofal, erys angen dirfawr am ofalwyr. Efallai y bydd angen mwy o arian ar hyn i dalu gofalwyr maeth ac ymgyrch hysbysebu enfawr. Hoffem weld opsiynau i deuluoedd cyfan aros gyda’i gilydd – mwy o gartrefi maeth rhieni a phlant / gofal preswyl, yn enwedig ar gyfer rhieni iau, a mwy o gyfleoedd i frodyr a chwiorydd aros gyda’i gilydd – rhywbeth y gellir ei gyflawni dim ond gyda mwy o ofalwyr maeth â’r gallu i gymryd grwpiau mwy o frodyr a chwiorydd. Mae angen cydnabyddiaeth a chefnogaeth lawn ar ofalwyr sy’n berthnasau fel nad yw caledi economaidd byth yn rheswm i ofal gan berthnasau fethu.

Gallai Pwyllgor y Senedd ymchwilio i raddau llwyddiant Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol wrth ddatblygu cartrefi preswyl therapiwtig i blant, a ddarperir ar y cyd rhwng gwasanaethau iechyd meddwl a gofal cymdeithasol, fel y’i hariannwyd gan Lywodraeth Cymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Os oes llwyddiant mewn rhai rhanbarthau o ran gofalu’n llwyddiannus am blant â’r anghenion cymdeithasol ac iechyd meddwl uchaf, yna gallai ariannu mwy o’r canolfannau hyn fod yn bwysig. Canfu ein hymchwil i gartrefi plant diogel nad oedd yr arhosiadau byr (tua tri i chwe mis) yn ddigon hir i blant a leolwyd yno wneud cynnydd mewn therapi a bod diffyg gofal cam-i-lawr ar ôl hynny yn aml yn golygu bod cynnydd wedi’i ddadwneud (Williams ac eraill, 2019).

Mater arall sy’n peri pryder i’w ddwyn i sylw’r pwyllgor yw’r diffyg lleoedd diogel mewn cartrefi plant am resymau lles ar gyfer pobl ifanc y rhoddwyd gorchmynion diogel iddynt. Canfu ein hastudiaeth (Williams ac eraill, 2020) na ellid dod o hyd i le i 40% o’r plant a atgyfeiriwyd i gartrefi plant diogel, er bod lleoedd ar gael – mae’r gyfradd llenwi tua 80% yng Nghymru a Lloegr (Roe, 2022). Gwelsom fod plant yn cael eu categoreiddio’n “rhy heriol” ar gyfer cartrefi plant diogel (Williams ac eraill, 2022) ac mae hyn yn codi'r cwestiwn, os na all ein sefydliadau a gynlluniwyd i ofalu am ein plant mwyaf agored i niwed wneud hynny, beth sy'n digwydd i'r plant hyn? Gallai’r cynnydd diweddar mewn ceisiadau am orchmynion amddifadu o ryddid o dan yr awdurdodaeth gynhenid a ddefnyddiwyd i amddifadu plant o’u rhyddid roi’r ateb. Mae nifer y gorchmynion hyn (yn Lloegr – dim data ar gael yn gyhoeddus ar gyfer Cymru) wedi cynyddu 462% yn y tair blynedd diwethaf (Roe, 2022), a disgwyliwn fod yr un peth yn digwydd yng Nghymru. Ar yr un pryd, mae nifer y ceisiadau am lety diogel yng Nghymru a Lloegr wedi gostwng 24%, sy’n awgrymu bod rhai awdurdodau lleol yn dewis gwneud cais uniongyrchol am orchymyn amddifadu o ryddid. Yr hyn sy’n peri pryder yw mai ychydig iawn a wyddom am yr hyn sy’n digwydd i’r plant hyn. Yr hyn a wyddom yw bod y lleoliadau a ddefnyddir yn aml heb eu rheoleiddio, yn anaddas (https://www.bbc.co.uk/news/uk-59147367), ac nad yw'r systemau arferol sydd ar waith i gyfyngu ar ryddid plant mewn cartrefi plant diogel yn bresennol. Os bydd cartrefi preswyl therapiwtig yn llwyddiant, gallai eu cyflwyno ymhellach helpu i ddatrys y bwlch yn y ddarpariaeth gofal ar gyfer y bobl ifanc eithriadol o agored i niwed hyn. Yn y tymor byr, rydym yn annog Pwyllgor y Senedd i wneud ymchwiliadau i raddau’r defnydd o orchmynion amddifadu o ryddid yng Nghymru.

 

2.       Cyflwyno hawl gyfreithiol i wasanaethau

Credwn y dylai fod gan bob plentyn a pherson ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yr hawl i becyn cymorth gofynnol gan wasanaethau iechyd a gwasanaethau awdurdodau lleol, gyda mwy i’r rhai sydd ei angen. Dylai hyn fod yn rhan o ddisgwyliadau rhianta corfforaethol gwell.

Fel canolfan, credwn nad yw'n dderbyniol bod llawer o blant sy'n derbyn gofal yn cael trafferth cael mynediad at wasanaethau'r GIG y mae arnynt eu hangen. Mae rhai Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) yn parhau i fod yn anodd eu cyrchu, yn enwedig i blant a phobl ifanc sydd wedi symud rhwng byrddau iechyd, sy’n gyffredin i blant sy’n derbyn gofal.

 Gall cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant fod yn ataliol a dylid ei gychwyn yn ddigon cynnar yn hytrach nag aros am argyfyngau. Mae gan ymchwilwyr CASCADE gydberthynas ymchwil gref a hirsefydlog gyda'r Athro Heather Taussig o Brifysgol Colorado. Dangosodd canlyniadau ei hap-dreial rheoledig o Fostering Healthy Futures, sef ymyriad mentora a sgiliau, leihad sylweddol mewn symptomau iechyd meddwl a defnydd o wasanaethau (Taussig ac eraill, 2019). Yn ogystal, dangosodd ei hastudiaeth hydredol lai o symptomau iechyd meddwl ar gyfer oedolion ifanc, gan adrodd am ddigon o gymorth gwybodaeth a materol, a mwy o foddhad bywyd i’r rhai sydd â mynediad at gymorth teuluol a chymorth materol (Evans ac eraill, 2022).

3.       Atal camfanteisio’n droseddol a rhywiol ar bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal ac atal mynediad i'r system cyfiawnder troseddol

Mae Cymru wedi gwneud cynnydd da yn ei hymatebion i gamfanteisio’n rhywiol a throseddol ar blant. Ategir y gwaith hwn gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, fe’i harweinir gan Ganllawiau Ymarfer Cymru Gyfan a’r Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid (2019), ac fe’i cydlynir gan Uned Atal Trais Cymru. Mae CASCADE wedi’i ariannu i ymgymryd â’r gwaith o gasglu data sylfaenol i gynorthwyo dealltwriaeth o gamfanteisio’n rhywiol ar blant gyda gwaith Hallett ac eraill (2019) yn tanategu’r Canllawiau Ymarfer Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant; ar yr un pryd, mae gwaith Maxwell ac eraill (2021, 2022) ar gamfanteisio’n droseddol ar blant wedi arwain at amrywiaeth o offer a gynhyrchwyd ar y cyd â phobl ifanc, rhieni ac ymarferwyr sydd â phrofiad uniongyrchol o gamfanteisio’n droseddol ar blant. Cyfeirir at yr offer hyn yn y gwaith sydd i’w ddatblygu gan Fwrdd Diogelu Cymru. Mae ymchwil Hodge (2022) yn cynnig cipolwg ar deithiau pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal drwy’r system cyfiawnder ieuenctid a lle y byddent wedi elwa ar gymorth ychwanegol. Fodd bynnag, mae llawer i'w wneud o hyd. Mae plant sy'n derbyn gofal wedi'u nodi'n arbennig o agored i gamfanteisio’n droseddol ar blant. Nododd Maxwell a Wallace (2021) dri grŵp sydd fwyaf mewn perygl: y glasoed a leolwyd mewn llety â chymorth ar ôl i leoliad gofal maeth chwalu, pobl ifanc sy’n cael eu lletya i ffwrdd o ddinasoedd mwy yn Lloegr i gartrefi gofal yng Nghymru, a cheiswyr lloches ar eu pen eu hunain wedi’u lleoli mewn llety byw’n lled-annibynnol yn 15 oed. Fel canolfan, credwn fod rhaid cael mwy o weithwyr ieuenctid datgysylltiedig sy'n gallu darparu cymorth a chefnogaeth barhaus a chyson i bobl ifanc sy'n destun camfanteisio. Mae hyn yn arbennig o gall o ystyried bod camfanteiswyr yn camu’n ôl pan fydd gwasanaethau’n cymryd rhan ac yn ailddechrau camfanteisio unwaith y bydd gwasanaethau statudol yn rhoi’r gorau i’w cymorth (Maxwell, 2022). Mae CASCADE hefyd yn credu bod angen mwy o ddulliau amlasiantaeth i fynd i'r afael â'r materion trawsbynciol hyn. Mae angen mwy o fuddsoddiad ar gyfer atal trais ieuenctid ac mae ein hymchwilwyr wedi cyfrannu adolygiad manwl o arferion da ar gyfer atal trais ieuenctid (Maxwell a Corliss, 2020). Mae'r adolygiad hwn yn sail i fframwaith trais ieuenctid yr Uned Atal Trais.

Yn hytrach na darparu cyllid ar gyfer ymatebion tymor byr, megis Gwasanaeth Dargyfeirio Barnardo’s, mae angen mynediad ar bobl ifanc at wasanaethau dibynadwy sydd ar gael i aros gyda nhw drwy eu taith. Mae ein gwaith presennol wedi'i anelu at gefnogi gwneud penderfyniadau a chynllunio ymatebion gwasanaethau. Er enghraifft, mae astudiaeth bresennol Maxwell, Madell a Wood (2022) yn archwilio’r llwybrau atgyfeirio, y ddarpariaeth o wasanaethau, a chanlyniadau addysg, iechyd, gofal cymdeithasol a throseddu ar gyfer plant y camfanteisir yn droseddol arnynt. Ar y llaw arall, bydd astudiaeth cysylltu data Hodges (2022) yn darparu dealltwriaeth fwy cynnil, groestoriadol o'r ymddygiadau ‘peryglus’ y mae pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn eu dangos ac yn nodi ffactorau amddiffynnol a sut y gellir eu gwella.

 

Maes 3

Ôl-ofal: Cefnogaeth barhaus pan fydd pobl ifanc yn gadael gofal

Amlinellwch uchafswm o dair prif flaenoriaeth ar gyfer diwygiadau radical o’r cymorth parhaus a ddarperir pan fydd pobl ifanc yn gadael gofal.

Tair blaenoriaeth:

1.       Cynyddu hawliau cyfreithiol

Mae Cymru wedi gwneud rhywfaint o gynnydd o ran hawliau cyfreithiol i'r rhai sy'n gadael gofal yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn fwyaf nodedig eu heithrio rhag talu’r dreth gyngor. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ariannu Cronfa Dydd Gŵyl Dewi, cymorth i gynghorwyr personol hyd at 25 oed, a chynllun peilot incwm sylfaenol, y mae CASCADE wedi’i gomisiynu i’w werthuso. Fodd bynnag, gall mentrau ariannu ddiflannu gyda newidiadau mewn blaenoriaethau gwleidyddol. Credwn y dylai'r pwyllgor archwilio p’un a yw amddiffyniadau cyfreithiol yn ddigonol yn ogystal â rhai amddiffyniadau cyfreithiol newydd radical.

·         Archwilio dichonoldeb dynodi profiad o fod mewn gofal fel nodwedd warchodedig. Rydym yn ymwybodol bod yna deimladau cymysg ymhlith y rhai sydd â phrofiad bywyd ond teimlwn ei bod yn werth archwilio’r manteision posibl.

·         Darparu hawl gyfreithiol i gynghorydd personol hyd at 25 oed

·         Ystyried gofyniad tymor hwy i gyrff cyhoeddus gefnogi pobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal y tu hwnt i 25 oed, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal

·         Ystyried yr hawl i lety digonol

·         Ystyried cymorth mwy cynhwysfawr i fyfyrwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal, gyda monitro cliriach o’r cymorth a ddarperir ar draws awdurdodau lleol

 

2.       Tai

Ymestyn y ddarpariaeth o dai diogel a chefnogol, gyda rhent fforddiadwy i alluogi mynediad at waith

Mae Cymru wedi gwneud cynnydd da o ran cefnogi pobl ifanc â thai. Fel y corff sy’n cynrychioli digartrefedd, tai a chymorth yng Nghymru, mae Cymorth Cymru wedi addasu egwyddorion allweddol Tai yn Gyntaf ar gyfer pobl ifanc, sy’n nodi bod gan bobl ifanc yr hawl i gartref, i gymorth gyda phontio rhwng gwasanaethau, i ddewis a rheolaeth dros y ffordd y maent yn ymgysylltu â gwasanaethau, ac i’w lleisiau gael eu clywed. Ymhellach, mae gweithwyr tai proffesiynol yn mabwysiadu dulliau sy’n ystyriol o gyflwr seicolegol i weithio'n therapiwtig gyda phobl ifanc i'w helpu i ddianc rhag digartrefedd a gwella eu lles emosiynol a meddyliol. Fodd bynnag, mae CASCADE yn credu y gellir gwneud mwy i weithredu a chynnal egwyddorion Cymorth Cymru i ddiogelu pobl ifanc a'u cefnogi yn ystod eu cyfnod pontio i annibyniaeth. Mae ein hymchwil wedi dangos bod pobl ifanc yn fwy agored i fod yn destun camfanteisio’n droseddol ar blant pan fyddant yn byw’n annibynnol gan ei fod yn cynyddu’r ffactorau risg ar gyfer camfanteisio megis teimlo’n unig ac ynysig ac yn brwydro i oroesi ar gyllideb gyfyngedig (Maxwell ac eraill, 2022). Ar ben hynny, mae'n bosibl y bydd cartrefi pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn cael eu troi’n ‘nyth cog’, lle mae camfanteiswyr yn cymryd drosodd eu heiddo i sefydlu canolfan ar gyfer eu gweithgarwch troseddol.

3.       Sicrhau bod pob awdurdod lleol yn dilyn Siarter Arferion Da CASCADE ar gyfer rhieni sydd â phrofiad o fod mewn gofal

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu diddordeb rhyngwladol cynyddol mewn profiad gofal sy’n pontio’r cenedlaethau. Yng Nghymru, datgelodd astudiaeth dull cymysg pum mlynedd stigma endemig sy’n wynebu rhieni ifanc mewn gofal ac sy’n gadael gofal, gwahaniaethu ac anfantais systemig, ynghyd â lefelau pryderus o deuluoedd yn gwahanu (Roberts, 2021).

Ers hynny, gwelwyd datblygiadau cadarnhaol, gan gynnwys mentrau trydydd sector megis grwpiau cymorth cymheiriaid a Phrosiect Undod y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (a ariennir gan Lywodraeth Cymru). Yn ogystal, cydgynhyrchwyd siarter arferion da gan CASCADE gyda rhieni sydd â phrofiad o fod mewn gofal ac fe’i cynlluniwyd i gryfhau cymorth rhianta corfforaethol (gweler https://www.exchangewales.org/cy/cefnogi-rhieni-mewn-gofal-ac-wrth-ei-adael-negeseuonirienicorfforaethol/). Mae’r siarter yn ei gwneud yn ofynnol i lofnodwyr ymrwymo i gefnogi pobl ifanc cyn iddynt ddod yn rhieni, wrth ddisgwyl plentyn a magu plentyn, ac os bydd pryderon diogelu’n cael eu codi. Yn bwysig, mae'r siarter yn nodi'n glir yr ymrwymiad i herio stigma a gwahaniaethu.

Yn galonogol, mae’r siarter wedi cael derbyniad cadarnhaol yng Nghymru, gyda 21 o’r 22 awdurdod lleol wedi ei mabwysiadu neu wrthi’n gwneud hynny. Er bod hyn yn gadarnhaol, mae'n hanfodol bod cynnydd yn parhau. Mae angen monitro nifer y rhieni mewn gofal ac sy’n gadael gofal bob blwyddyn, yn ogystal â'r llwybrau a'r canlyniadau i deuluoedd. Yn yr un modd, mae pryder parhaus am brofiadau rhieni yn hanfodol i sicrhau bod symudiad diwylliannol tuag at gymorth a chefnogaeth ystyrlon yn cael ei gyflawni yn hytrach.

 

Sylwadau eraill

Mae’n amlwg y bydd angen buddsoddiad ychwanegol ar gyfer y rhan fwyaf o’n blaenoriaethau. Fodd bynnag, gallai lleihau’r niferoedd mewn gofal a lleihau dibyniaeth ar ddarpariaeth y tu allan i'r ardal a darpariaeth breifat adennill costau ychwanegol yn y pen draw.

 

Cyfeiriadau

 

Allen, K., Paskell, C., Godar, R., Ryan, M., & Clery, L. (2021). Evaluation of Pan Bedfordshire FDAC Final evaluation report. Research in Practice. https://tinyurl.com/EvaluationofPanBedFDAC

Bayfield, H. “More of a kind of patchy transition into university as opposed to the kind of smooth story that people expect”: Transitions to Higher Education for Care-Experienced Students. Forthcoming.

Bezeczky, Z., El-Banna, A., Petrou, S., Kemp, A., Scourfield, J., Forrester, D. and Nurmatov, U. (2020) Intensive Family Preservation Services to prevent out-of-home placement of children: a systematic review and meta-analysis. Child Abuse and Neglect, 102: 104394.

Diaz, C., Fitz-Symonds, S., Evans, L., Westlake, D., Devine, R., Mauri, D., & Davies, B. (2022). The Perceived Impact of Peer Parental Advocacy on Child Protection Practice: A Pilot Study. What Works for Children's Social Care

Diaz, C., Evans, L., Fletcher, A., Devine, R., Roberts, l., & Fitz-Symonds, S. 'They seem to listen more now I have an advocate'. A study into the implementation of parental advocacy in Wales. Forthcoming.

Elliott, M., Staples, E. and Scourfield, J. 2018. The characteristics of children and young people in residential care in Wales. Child Care in Practice 24(3), pp. 317-330.

Fitz-Symonds, S., Evans, L., Tobis, D., Westlake, D., & Diaz, C. Mechanisms for Support: A Realist Evaluation of Peer Parental Advocacy in England. Forthcoming.

Forrester, D., Wood, S., Waits, C., Jones, R., Bristow, D. and TaylorCollins, E. (2021) Children's social services and care rates in Wales: A survey of the sector, Wales Centre for Public Policy, available online at: https://www.wcpp.org.uk/wp-content/uploads/2022/03/220216-Childrens-social-services_en_final.pdf

Harwin, J., Alrouh, B., Broadhurst, K., McQuarrie, T., Golding, L., & Ryan, M. (2018). Child and parent outcomes in the London family drug and alcohol court five years on: Building on international evidence. International Journal of Law, Policy, and the Family, 32(2), 140–169. https://doi.org/10.1093/lawfam/eby006

Hodges, H. (2020) Children Looked after in Wales: Factors Contributing to Variation in Local Authority Rates, Wales Centre for Public Policy, available online at: https://www.wcpp.org.uk/wp-content/uploads/2020/09/Children-looked-after-in-Wales-Factors-contirbuting-to-variation-in-rates.pdf

Meindl, M., Hosch, M. and Westlake, D. 2022. An evaluation of the Family Drug and Alcohol Court in Wales pilot: Interim report. Project Report. [Online]. Cardiff University. Available at: https://cascadewales.org/research/evaluation-of-the-family-drug-and-alcohol-court-in-wales-pilot/

Meindl, M., Stabler, L., Mayhew Manistre, L., Sheehan, L., O'Donnell, C., Forrester, D. and Brand, S. 2019. How do family drug and alcohol courts work with parents to safely reduce the number of children in care? A rapid realist review. Project Report. [Online]. London: What Works Centre for Children's Social Care. Available at: https://whatworks-csc.org.uk/wp-content/uploads/WWCSC_FDAC_rapid_realist_review_Oct2019.pdf

Ogbonnaya. I.N. and Keeney, A. J. (2018) A systematic review of the effectiveness of interagency and cross-system collaborations in the United States to improve child welfare outcomes. Children and Youth Services Review 94: 225-245.Roe, A. (2022) What do we know about children and young people deprived of their liberty in England and Wales? An evidence review. Nuffield Family Justice Observatory.

Roberts, L. (2016).. Using part-time fostering as a family support service: advantages, challenges and contradictions. British Journal of Social Work 46(7), pp. 2120-2136. (10.1093/bjsw/bcv075)

Rodger, Allan and Elliott. (2020) Family Safeguarding Evaluation. H https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/932367/Hertfordshire_Family_Safeguarding.pdf

Shaw, M. (2021). A Proof-of-Concept Pilot for an Intervention with Pregnant Mothers Who Have Had Children Removed by the State: The ‘Early Family Drug and Alcohol Court Model.’ Societies, 11(1), 8. https://doi.org/10.3390/soc11010008

StatsWales (2021) Children looked after at 31 March per 10,000 population aged under 18 by local authority and year, available online at at: https://statswales.gov.wales/Catalogue/Health-and-Social-Care/Social-Services/Childrens-Services/Children-Looked-After/childrenlookedafterat31marchper10000population-localauthority-year

 

Williams, A., Bayfield, H., Elliott, M., Lyttleton-Smith, J., Evans, R., Young, H. and Long, S.  (2019) The experiences and outcomes of children and young people from Wales receiving Secure Accommodation Orders. Social Care Wales

 

Williams, A. Wood, S., Warner, N., Cummings, A., Hodges, H., El-Banna, A., and Daher, S. (2020) Unlocking the facts: young people referred to secure children’s homes. What Works for Children’s Social Care

Williams, A., Cummings, A., Forrester, D., Hodges, H., Warner, N. and Wood, S. (2022) Even Secure Children’s Homes Won’t Take Me. Children Placed in Alternative Accommodation, Residential Treatment for Children & Youth.

Wood, S. & Forrester, D. [IN PRESS] Comparing local authority rates of children in care:  A survey of the children’s social care workforce in Wales, British Journal of Social Work. {copy available for the Committee on request}.

Zhang, Saijun & Huang, Hui & Wu, Qi & Li, Yong & Liu, Meirong. (2019). The impacts of family treatment drug court on child welfare core outcomes: A meta-analysis. Child Abuse & Neglect, 88, 1-14.